Lleoliad:
Video Conference via Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 1 Rhagfyr 2020
Amser:
09.04 -
09.45
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Bethan Garwood |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cafwyd ymddiheuriadau gan Caroline Jones.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Busnes yr Wythnos Hon
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y tri newid i Fusnes yr Wythnos Hon:
· Mae'r datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar ailadeiladu economaidd wedi'i dynnu'n ôl.
· Mae'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Farchnad Fewnol wedi'i ohirio tan 8 Rhagfyr.
· Mae datganiad gan y Prif Weinidog ar gyfyngiadau Coronafeirws mis Rhagfyr wedi cael ei ychwanegu fel yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau y tu hwnt i 5.40pm.
Dydd Mercher
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau y tu hwnt i 7.15pm.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 8 Rhagfyr 2020
· Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Argymhellion Burns - Y Camau Nesaf (45 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (45 munud)
·
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar
y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol (15
munud)
Dydd Mawrth 8 Rhagfyr 2020
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol (15 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau busnes a ganlyn ar yr amserlen: Cafodd y Rheolwyr Busnes wybodaeth am faterion sy'n berthnasol i amserlennu'r ddadl ar Adroddiad 03-20.
Dydd Mercher 9 Rhagfyr 2020 –
· Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Adroddiad 03-20 (15 munud)
Dydd Mercher 13 Ionawr 2021 -
· Dadl ar ddeiseb P-05-1032 Deddfu i atal pobl rhag newid enwau Cymraeg tai (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i Grŵp Cynghrair Diwygio Annibynnol (60 munud)
4 Pwyllgorau - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
4.1 Newid y trothwy ar gyfer ystyried cynnal dadl ar ddeisebau
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Deisebau yn nodi barn y Rheolwyr Busnes ynghylch newid y trothwy ar gyfer ystyried dadleuon ar ddeisebau.
4.2 Llythyr yn gofyn am ddadl ar ddeiseb
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ar y ddeiseb ar 13 Ionawr 2021.
5 Y Rheolau Sefydlog
5.1 Gweithdrefnau Busnes Cynnar
Trafododd y Rheolwyr Busnes y cynigion a chytunwyd i drafod y materion a godwyd gyda'u grwpiau cyn dychwelyd at y mater yn y cyfarfod ar 15 Rhagfyr.
Unrhyw fater arall
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnal cyfarfodydd ychwanegol o'r Pwyllgor Busnes ar y dyddiau Llun canlynol rhwng 11.00am ac 1.00pm:
· 18 Ionawr:
· 1 Chwefror; a
· 22 Chwefror:
Gwrthwynebiadau
Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes roi rhybudd ymlaen llaw, lle y bo'n bosibl, os ydynt yn bwriadu gwrthwynebu eitemau wrth gymryd rhan o bell, yn hytrach nag yn y Siambr.
Coronafeirws - Cyfyngiadau mis Rhagfyr
Gofynnodd Darren Millar am opsiynau ar gyfer cynnal dadl (a phleidlais) ar gyfyngiadau Coronafeirws mis Rhagfyr, cyn y bleidlais ar y rheoliadau a wnaed yn gadarnhaol, y disgwylir iddynt gael eu cynnal ar 15 Rhagfyr. Cafodd y Rheolwyr Busnes wybodaeth am opsiynau yn ymwneud â dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth.